
Lesley Griffiths ydw i, eich AC Llafur Cymru dros Wrecsam yng Ngogledd Cymru.
Nod y wefan yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith rwy’n ei wneud yn Wrecsam a hefyd yng Nghaerdydd, a darparu gwybodaeth ddefnyddiol amdanaf fi a’r etholaeth. Defnyddiwch y dolenni ar y chwith os gwelwch yn dda i we-lywio’ch ffordd o gwmpas y wefan.
Rwyf hefyd yn awyddus, fodd bynnag, i glywed gennych chi – ac mae’r wefan hon yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gysylltu, boed drwy ebost, twitter neu ddulliau mwy traddodiadol.
Gobeithio y cewch y wefan hon yn ddefnyddiol a diddorol, ac edrychaf ymlaen at glywed gennych chi.
Lesley Griffiths AC
DATGANIAD TG & PREIFATRWYDD
Ynglŷn â’r Wefan Hon: Sefydlwyd y wefan hon i roi gwybod i’r etholwyr am waith Lesley Griffiths AC fel Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i gyhoeddi manylion cysylltu. Ariannir y wefan drwy’r Lwfans Costau Swyddfa a roddir i Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyfeiriadau IP a Data Ffeiliau Cofnodi: Nid yw’r wefan hon yn dal ac yn storio gwybodaeth bersonol yn awtomatig, ar wahân i logio Cyfeiriad IP neu rwydwaith y defnyddiwr ar y Rhyngrwyd, i ddibenion gweinyddu systemau a chywiro diffygion. Rydym hefyd yn defnyddio cyfeiriadau IP yn gyfanredol i olrhain pa dudalennau mae pobl yn ymweld â hwy er mwyn gwella ansawdd y safle. Darperir y cyfleuster hwn gan westeiwr y wefan, Fasthosts. Cwcis: Ffeil testun fechan iawn yw cwci sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur. Dolenni i wefannau eraill: Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau a serfwyr. Nid yw Lesley Griffiths AC yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys y gwefannau hyn.